Amdanom ni

Mae Canolfan Hyfforddiant Doethurol EPSRC mewn Gweithgynhyrchu Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn cael ei harwain gan Brifysgol Caerdydd mewn partneriaeth â Phrifysgol Manceinion, Prifysgol Sheffield a Choleg Prifysgol Llundain.

Rydym yn cynnig rhaglen unigryw sy’n darparu dealltwriaeth gyfannol o’r holl broses weithgynhyrchu, yn ogystal ag arbenigedd mewn un cam o leiaf. Rydym yn credu bod y dull hwn yn allweddol wrth eich datblygu chi fel un o arweinwyr gweithgynhyrchu lled-ddargludyddion cyfansawdd y dyfodol, p’un ai a fyddwch chi’n dewis dilyn gyrfa yn y diwydiant, gyrfa academig, neu’r ddau.

Rydym yn cynnig cyrsiau PhD wedi’u hariannu’n llawn, gyda chyflog ychwanegol i fyfyrwyr cymwys.

Pam dewis PhD mewn Gweithgynhyrchu Lled-ddargludyddion Cyfansawdd?

Mae deunyddiau Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn Dechnoleg Alluogi Allweddol sydd wrth galon y gymdeithas fodern. Maent yn ganolog i ddatblygu’r rhwydwaith 5G, golau ynni effeithlon, ffonau clyfar, cyfathrebu rhwng lloerenni, electroneg bŵer ar gyfer cerbydau trydan a thechnegau delweddu newydd y dyfodol, ymhlith eraill.  Yn y bôn, mae’r dechnoleg hon yn cynnal ein byd cysylltiedig, ein hiechyd, ein diogelwch a’r amgylchedd.   

Dim ond wrth newid prosesau gweithgynhyrchu Lled-ddargludyddion Cyfansawdd y gallwn ddatblygu cenhedlaeth nesaf y technolegau hyn. Yn ôl arolwg a gynhaliwyd gan Sefydliad Sgiliau Electroneg y DU yn 2018, rhagwelir y bydd twf uchel o ran swyddi gwerth uchel ymysg partneriaid craidd y Clwstwr Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn y dyfodol, gyda bron i fil o swyddi ychwanegol yn debygol o gael eu creu erbyn 2024. Mae cyflogwyr yn rhagweld y bydd galw yn y dyfodol ar gyfer staff sydd wedi’u haddysgu i lefel PhD, ac mae ein cynlluniau ar gyfer y Ganolfan Hyfforddiant Doethurol wedi cael eu croesawu ganddynt.

Pam dewis gwneud PhD yn un o Ganolfannau Hyfforddiant Doethurol EPSRC?

Mae Canolfannau Hyfforddiant Doethurol wedi datblygu dros y 15 mlynedd diwethaf. Maent wedi cael eu cefnogi gan Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg (EPSRC) am eu bod yn creu carfan gryf o ymchwilwyr sy’n datblygu sgiliau y tu hwnt i destun arbenigol eu PhD ac yn datblygu rhwydweithiau ar draws prifysgolion a’r diwydiant. 

Maent yn darparu amgylchedd cefnogol a chyffrous i fyfyrwyr, gan greu diwylliannau gwaith newydd a meithrin cysylltiadau hirdymor gyda’r diwydiant.

Pam dewis Canolfan Hyfforddiant Doethurol EPSRC mewn Gweithgynhyrchu Lled-ddargludyddion Cyfansawdd?

Mae ein Canolfan Hyfforddiant Doethurol yn rhan o glwstwr bywiog sydd wedi’i ariannu’n dda, sydd wedi ymrwymo i ddatblygu technolegau Lled-ddargludyddion Cyfansawdd gan adeiladu ar allu academaidd a diwydiannol parod, yn ogystal ag arbenigedd gweithgynhyrchu.

Rydym yn tynnu ar y ffynonellau a’r arbenigedd sydd yn y clwstwr i roi mynediad i chi at amrywiaeth eang o arbenigedd a chyfleodd i ddatblygu prosiect ymchwil heriol, adeiladu rhwydwaith a rhoi eich gwaith mewn cyd-destun. 

  • Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd ym Mhrifysgol Caerdydd, sydd â Chyfleuster Ymchwil Drosiadol newydd werth £80M, i fod yn gartref i dros 100 o ymchwilwyr erbyn 2020.
  • Canolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd Cyf. (CSC Ltd), menter ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd ac IQE Plc gyda 75 o staff pwrpasol yn Nghaerdydd i ymchwilio i ddeunyddiau Lled-ddargludyddion Cyfansawdd a gweithgynhyrchu Lled-ddargludyddion Cyfansawdd.  Mae’r Ganolfan fel arfer yn canolbwyntio ar ddarparu cyfleoedd fydd yn cyrraedd y farchnad mewn 1–3 mlynedd, drwy lwybrau darparu sydd wedi’u diffinio’n glir, ac sy’n bosibl o ganlyniad i gydweithio effeithiol gyda’n partneriaid prosiect.
  • Catapwlt Rhaglenni Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, a fydd yn tyfu i ~80 o arbenigwyr peirianneg rhaglenni medrus iawn erbyn 2019.
  • Canolfan Gweithgynhyrchu Lled-ddargludyddion Cyfansawdd y Dyfodol wedi’i ariannu gan EPSRC, dan arweiniad Prifysgol Caerdydd mewn cydweithrediad â Phrifysgol Manceinion, Prifysgol Sheffield a Choleg Prifysgol Llundain, i fynd i’r afael â’r heriau sydd ynghlwm wrth weithgynhyrchu technoleg deunyddiau Lled-ddargludyddion Cyfansawdd newydd ar raddfa fwy.
  • Y Ffowndri Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yw prosiect blaenllaw cyntaf Bargen Ddinesig Rhanbarth Caerdydd, a bydd yn gartref i epi-ffowndri mwyaf y byd sy’n cael ei redeg gan IQE Plc a phrif ganolfan y Catapwlt Rhaglenni Lled-ddargludyddion Cyfansawdd. Mae’r £38M hwn o fuddsoddiad cyhoeddus wedi datgloi £375M o fuddsoddiad preifat, ac mae yn y broses o dyfu i 2000 o swyddi yn y gadwyn gyflenwi ehangach.
  • Cyfleusterau ymchwil arbennig ac ymchwilwyr blaenllaw ym mhob un o’r pedair prifysgol sy’n bartneriaid.

Comments are closed.