Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Nod y Ganolfan Hyfforddiant Doethurol mewn Gweithgynhyrchu Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yw bod yn batrm o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar draws ein gweithgareddau. Mae ein pedwar partner Prifysgol yn rhannu’r ymrwymiad hwn ac yn ymgysylltu â nodau siarter cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant (gweler isod).

Recriwtio a Derbyn 

Rydym ni’n annog ceisiadau gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn gryf, ac yn ein disgyblaeth ni mae hynny’n cynnwys menywod ac ymgeiswyr du a lleiafrifol ethnig.   Rydym ni’n croesawu’r rheini sy’n dychwelyd i astudio a byddwn yn ystyried eich profiad gwaith perthnasol yn ogystal â chanlyniadau academaidd blaenorol.  Byddwn yn hysbysebu ein hysgoloriaethau mor eang â phosibl, gan ddefnyddio gwasanaethau gyrfaoedd yn ogystal â sianeli PhD traddodiadol, gan sicrhau bod ein deunyddiau’n arddangos amrywiaeth y gymuned ymchwil ôl-raddedig ehangach a charfan y Ganolfan Hyfforddiant Doethurol, yn staff, myfyrwyr a phartneriaid diwydiant. 

Bydd ein myfyrwyr cyfredol yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu fydd yn annog pobl ifanc o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol i ystyried astudio ffiseg a pheirianneg, gan gynyddu’r ffrwd i mewn i astudiaethau doethurol.  Mae nifer o weithwyr ein partneriaid diwydiannol yn cymryd rhan yn y cynllun Llysgenhadon Gwyddoniaeth i wneud yr un peth a byddwn yn rhannu ymarfer da ac yn cydweddu ein gweithgareddau lle bo’n ymarferol.   Byddwn yn cyfrannu’n weithredol i fentrau sy’n canolbwyntio ar fenywod mewn STEMM.

Mae ein proses ddethol yn seiliedig ar feini prawf academaidd ac anacademaidd – rydym yn ceisio adnabod y myfyrwyr hynny sy’n gallu dangos gallu i ymgymryd â hyfforddiant ymchwil ac elwa arno, a chwblhau doethuriaeth.  Ein maen prawf academaidd arferol yw gradd anrhydedd dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uchaf, ond caiff myfyrwyr gyda 2.2. eu hystyried os ydynt wedi perfformio’n dda ar lefel Meistr neu os oes ganddynt brofiad gwaith perthnasol sylweddol. 

Rydym hefyd yn asesu cymhelliad ac ymrwymiad i astudiaethau PhD mewn gweithgynhyrchu lled-ddargludyddion cyfansawdd, a chymhelliad ac ymrwymiad i ddull seiliedig ar garfan y PhD.

Mae Cadeirydd(ion) ein paneli cyfweld wedi’u hyfforddi i gadeirio paneli, ac mae holl aelodau’r panel wedi derbyn hyfforddiant ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn cynnwys tueddiadau diarwybod.   Caiff ymdrechion eu gwneud i sicrhau bod amrywiaeth ar y panel dethol, heb orlwytho unigolion. 

Rydym yn cynnig cyfweliadau ar-lein i ymgeiswyr sy’n ei chael yn anodd teithio i safle’r cyfweliad ac yn ad-dalu treuliau teithio rhesymol i’r rhai sy’n dod. 

Rhaglen y Ganolfan Hyfforddiant Doethurol

Fel Canolfan Hyfforddiant Doethurol sy’n annog cyfnod ar leoliad diwydiannol, rydym ni’n cynorthwyo ein myfyrwyr i deithio rhwng safleoedd ac i ddigwyddiadau.  I’r rheini sydd â chyfrifoldebau gofalu, rydym ni’n darparu cyllid ar gyfer costau ychwanegol angenrheidiol yn sgil y teithio gofynnol hwn.

Fel yn achos Canolfannau Hyfforddiant Doethurol eraill a gyllidir gan yr EPSRC, rydym ni’n cynnig absenoldeb rhiant a mabwysiadu â thâl ac yn cefnogi myfyrwyr i ddychwelyd i astudio ar ôl cyfnodau o’r fath. 

Mae cymorth ar gael i fyfyrwyr ag anableddau drwy wasanaethau myfyrwyr y pedair Prifysgol partner a thrwy ddarparu Lwfans Myfyriwr Anabl lle bo’n berthnasol. Mae’n arfer cyffredinol i recordio darlithoedd MSc ym Mhrifysgol Caerdydd ac rydym ni’n ceisio recordio cynifer ag y gallwn o seminarau’r Ganolfan Hyfforddiant Doethurol i alluogi myfyrwyr i’w gwylio os buont yn absennol neu at ddibenion adolygu.

Rydym ni’n ceisio datblygu amgylchedd gwaith ac astudio cynhwysol, lle rhoddir gwerth ar amrywiaeth. Mae ein rhaglen hyfforddi’n cynnwys Hyfforddiant Cydraddoldeb ac Amrywiaeth gorfodol i fyfyrwyr yn ogystal ag osgoi tueddiadau diarwybod. Rydym ni’n datblygu rhaglenni mentora cymheiriaid i gyfoethogi amgylchedd y Ganolfan Hyfforddiant Doethurol a cheisio creu cysylltiadau i fyfyrwyr â nodweddion gwarchodedig yn y gymuned ymchwil ehang

Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb

Rydym ni’n cynnal asesiad o effaith ein rhaglen hyfforddi ar gydraddoldeb, ein proses dewis prosiect PhD, a’n prosesau recriwtio a derbyn myfyrwyr (ar gael ar gais gan semiconductors-cdt@caerdydd.ac.uk) a byddwn yn mynd ati i ymdrin ag unrhyw faterion sydd wedi codi o’r asesiadau hyn.   

Cydnabyddiaeth Allanol 

Mae’r pedwar partner Prifysgol yn cynnal gwerthusiadau a chydnabyddiaeth allanol i’w hymdrechion i wella cydraddoldeb ac amrywiaeth. 

Dyfarniadau lefel Prifysgol ein partneriaid:

  • Athena Swan: Dyfarniad Arian – Caerdydd, Sheffield ac UCL; Dyfarniad Efydd – Manceinion
  • 100 Cyflogwr Gorau Stonewall 2019: Caerdydd, Manceinion a Sheffield
  • Hyderus o ran Anabledd: Manceinion, Sheffield 
  • Siarter Cydraddoldeb Hiliol: Dyfarniad Efydd – Manceinion, UCL; Aelod – Caerdydd

Dyfarniadau Cyfadran / Adran

  • Ffiseg Caerdydd – Hyrwyddwr Juno
  • Peirianneg Caerdydd – Athena Swan Arian
  • Peirianneg Drydanol ac Electronig Manceinion – Athena Swan Efydd
  • Ffiseg Manceinion – Hyrwyddwr Juno
  • Peirianneg Drydanol ac Electronig Sheffield – Athena Swan Efydd
  • Ffiseg Sheffield – Hyrwyddwr Juno 
  • Peirianneg Drydanol ac Electronig UCL – Athena Swan Efydd
  • Ffiseg UCL – Athena Swan Arian a Hyrwyddwr Juno

Comments are closed.