Rhaglen

Mae ein Canolfan Hyfforddiant Doethurol yn defnyddio dull hyfforddi amlsefydliadol sy’n seiliedig ar garfanau, ac sy’n cynnwys partneriaethau diwydiannol cryf. Bydd yn cynnal dyfnder ysgolheigaidd mewn arbenigedd, ac yn darparu dealltwriaeth o faterion drwy gydol y broses gweithgynhyrchu, gan roi’r holl sgiliau trosglwyddadwy y bydd eu hangen arnoch chi, yn ogystal ag ystod eang o sgiliau ymarferol i’ch paratoi chi ar gyfer y dyfodol.

Ein dull ni

Ein dull ni yw PhD 1+3 lle mae’r flwyddyn gyntaf wedi’i lleoli yng Nghaerdydd. Byddwch yn cael hyfforddiant mewn amgylchedd sy’n cynnwys mynediad at offer a phrosesau gweithgynhyrchu (gan gynnwys dylunio), a byddwch yn datblygu gwerthfawrogiad o’r gadwyn weithgynhyrchu gyfan. 

Byddwch yn gweithio ar eich prosiect ymchwil eich hun, sy’n seiliedig ar eich diddordebau a’ch sgiliau chi, a byddwch yn cyfrannu at nodau cyffredinol y Ganolfan. Mae swyddfa/gofod astudio pwrpasol ar gael ar gyfer y Ganolfan Hyfforddiant Doethurol, gyda’ch gweithle penodol eich hun, cegin, a swyddfeydd staff yn gyfagos.

Blwyddyn 1

Byddwch yn datblygu sylfaen cryf wrth ymgymryd â rhaglen MSc naill ai mewn Ffiseg Lled-ddargludyddion Cyfansawdd neu mewn Peirianneg Electronig Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, yn dibynnu ar eich diddordebau. Os byddwch yn llwyddo i gyflawni’r holl ofynion, gallwch ennill MSc fel rhan o’r rhaglen PhD.  

Drwy’r modiwlau Meistr a’r rhaglen siaradwyr gwadd, cewch gyfle i ddod yn gyfarwydd â gwaith ymchwil ar draws y pedwar partner – Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Manceinion, Prifysgol Sheffield a Choleg Prifysgol Llundain – ac archwilio amrywiaeth o brosiectau ymchwil cyn gwneud penderfyniad am eich prosiect PhD chi. Byddwch yn datblygu’r cynllun ar gyfer y prosiect PhD a’r prosiect haf 3 mis o hyd gyda’ch goruchwyliwr/wyr fel rhan o fodiwl strwythuredig a addysgir. 

Blwyddyn 2–4

Ym mlwyddyn 2–4, byddwch yn ymgymryd â’ch prosiect PhD yn un o’r pedwar prifysgol partner.  Mae pob un o’r pedwar sefydliad yn arweinwyr ym maes ymchwil i Led-ddargludyddion Cyfansawdd, ac yn berchen ar gyfleusterau o’r radd flaenaf. Byddwch yn parhau i gymryd rhan mewn gweithgareddau grŵp ac yn cadw mewn cysylltiad â’ch cydweithwyr yn y Ganolfan Hyfforddiant Doethurol.  

Comments are closed.