Carfan 3

Ymunodd ein trydedd garfan (14 myfyriwr) â ni fis Medi 2021

Ahmed Al-Basha

Helo, Ahmed ydw i ac fe gododd fy uchelgais i wneud sglodion electronig yn fy mhlentyndod. Felly, dechreuais gwrs BEng i fod yn beiriannydd cemegol ym Mhrifysgol Leeds lle y dysgais lawer am wyddoniaeth faterol a pheirianneg yn ogystal â phrosesau gweithgynhyrchu.

Roedd prosiect fy mlwyddyn olaf yn ymwneud â llunio ffatri cynhyrchu deunyddiau crisialog a’r is-sustemau cysylltiedig.

Yn 2018, ymunais â chwmni lled-ddargludyddion diemwnt yng ngogledd-ddwyrain Lloegr yn beiriannydd datblygu. Roedd fy rôl yn cynnwys dylunio offer a jigiau gweithgynhyrchu, yn ogystal â gwneud dyfeisiau.

Yn y rhaglen CDT hon, edrychaf ymlaen at ehangu fy mhrofiad trwy drin a thrafod gwahanol ddeunyddiau lled-ddargludyddion a dysgu rhagor am y wyddoniaeth y tu ôl iddyn nhw.

Ar wahân i beirianneg, rwy’n mwynhau coginio, arlunio a heicio.


Alex Bennett

Helo, Alex ydw i. Rwy’n dod o Milton Keynes, ond rwyf i wedi treulio’r rhan fwyaf o’m plentyndod (cofiadwy) yng nghyffiniau prifddinas yr Iseldiroedd.

Dychwelais i’r deyrnas hon i astudio ar gyfer Safon Uwch ffiseg, mathemateg, cemeg a bywydeg. Enillais BSc Ffiseg ym Mhrifysgol Caerdydd. Hanfod prosiect fy mlwyddyn olaf oedd ymchwil i effeithiau bylchau mewn cylchedau magnetig. Ystyriais ddaearyddiaeth polyn unffurf ac anghyson fel ei gilydd a bu angen dadansoddi elfennau cyfyngedig ar gyfer yr ail.

Rwy’n gyfarwydd â modelu cyfrifiadurol ers yr ysgol uwchradd lle y dysgais sut i roi modelau tri dimensiwn ffotorealistig mewn fideos trwy olrhain pelydrau. Wrth olrhain pelydrau, fe welais i am y tro cyntaf un o ddibenion niferus cyfrifiadura cyfochrog – maes yr hoffwn ei ddatblygu ymhellach trwy ddefnyddio dyfeisiau ffotonig.

Y tu allan i’r labordy, rwy’n mwynhau rhedeg, beicio a drymio. Mae dau ddiddordeb mwy technegol gyda fi, hefyd – electroneg a thynnu lluniau.


Davey Armstrong

Helo, Davey ydw i, o Swydd Gaerloyw.

Rwy’n astudio ar gyfer MPhys Ffiseg a Seryddiaeth yng Nghaerdydd ers pedair blynedd. Pan oeddwn i’n fyfyriwr israddedig, roedd diddordeb cryf gyda fi mewn astroffiseg ond rwyf i wedi ymddiddori ym maes ffiseg lled-ddargludyddion bellach.

Fy mhrif ddiddordeb yw defnyddio lled-ddargludyddion yn y byd o’n cwmpas boed ar gyfer ynni gwyrdd neu lunio offerynnau i’w hanfon i’r ofod. Rwyf i wedi mwynhau agweddau ymarferol y cwrs hyd yma, yn arbennig hyfforddiant ystafell lân, a’r gobaith yw cyfuno’r hyn ddysgaf yma â phrosiect fy noethuriaeth wedyn.

Y tu allan i ffiseg, rwy’n gerddor ac arlunydd brwd ac rwy’n hoff o grwydro cefn gwlad, hefyd.


Eve Burgess

Helo, Eve ydw i, o Oldham ger Manceinion ac rwy’n astudio yng Nghaerdydd ers pedair blynedd gan ennill MPhys Ffiseg a Seryddiaeth yn haf 2021.

Er imi ddechrau astudio astroffiseg, sylweddolais cyn bo hir mai ffiseg deunyddiau cyddwysedig oedd fy mhrif ddiddordeb, yn arbennig ffiseg lled-ddargludyddion, eu cynhyrchu a’u dibenion. Yn ystod prosiect fy mhedwaredd flwyddyn, astudiais sut mae lleddfu diffygion wrth integreiddio deunyddiau III-V ac is-setiau Si ar gyfer twf epitacsi planar a nanoweir fel ei gilydd.

Pan nad ydw i’n astudio, rwy’n mwynhau darllen, gwrando ar gerddoriaeth (yn fyw sydd orau) ac yfed a dawnsio gyda ffrindiau er bod rhaid neilltuo amser i ddyfrio’r planhigion gartref (26 sydd gyda fi ar hyn o bryd ac, felly, mae’n dipyn o waith).


Doug Crackett

Hi, Doug yw fy enw i, ac rwy’n dod o ogledd-ddwyrain Lloegr.

Enillais radd meistr cemeg ym Mhrifysgol Sheffield yn 2019. Hanfod prosiect fy ngradd meistr oedd synthesis a dadansoddi deunyddiau ar gyfer TADF OLED a thrwy hynny yr ymddiddorais mewn lled-ddargludyddion. Ers graddio, rwy’n dechnegydd cymorth ymchwil ar gyfer Adran Therapïau a Fformiwleiddio Moleciwlaidd Ysgol Fferylliaeth Prifysgol y Tŷ Ogofog.

Rwy’n edrych ymlaen at barhau â dringo a syrffio yng Nghaerdydd, hefyd.


Yinghong Huang

Helo, Yinghong ydw i o Tsieina, ac fe ddes i’n ymwybodol o faes lled-ddargludyddion yn ystod trydedd flwyddyn cwrs fy ngradd gyntaf pan synnais sut y gallai effeithio ar fywydau pobl. 

Astudiais echdynnu golau’r LED trwy TracePro ar gyfer fy nhraethawd hir. Ar ôl gorffen MEng Gwyddoniaeth a Pheirianneg Gwybodaeth Optoelectroneg, fe es i Brifysgol Sheffield ar gyfer MSc Ffotoneg ac Electroneg Lled-ddargludyddion ac enw fy mhrosiect oedd Effects of Misalignments on Incident Angles on Multi-beam Laser Interference with Different Polarisation Modes o dan adain yr Athro Mark Hopkinson.

Yn fy amser rhydd, rwy’n mwynhau arlunio, ffotograffiaeth, gwylio ffilmiau ac animeiddiadau.


Ben Jakobs

Helo, Ben yw fy enw i, ces i fy magu yn Lwcsembwrg cyn symud i Lundain lle yr astudiais ar gyfer MSc Ffiseg yng Ngholeg y Brenin dros bedair blynedd, gan ganolbwyntio ar ddeunyddiau cyddwysedig.

Thema fy nhraethawd oedd dadansoddi problem electronau cydberthynol trwy gwantwm Monte Carlo a dysgu peiriannol lle y gadawodd yr algorithm imi efelychu electronau yn ôl model Anderson Impurity a’u dangos trwy swyddogaethau gwyrdd.

Y tu allan i’r brifysgol, rwy’n mwynhau cymdeithasu gyda ffrindiau, teithio, darllen nofelau ditectif a phêl-droed.


Samira Lofti Golsefidi

Enillodd Samira radd peirianneg electronig yn 2014 a gradd meistr yn yr un pwnc yn 2017. Mae profiad diwydiannol helaeth gyda hi yn arbenigwr ymchwil a datblygu ym meysydd llywio a’r Rhyngrwyd o Bethau fel ei gilydd.

Prif fyrdwn ymchwil ei gradd meistr oedd ffenomena ffisegol ynghylch ffotoganfodyddion silicon ac organig. Mae hi wedi modelu ac efelychu ffotoganfodyddion silicon ac organig a phennu’r strwythur gorau ar gyfer cynhyrchu. Mae hi wedi cynnal dau brosiect gwirfoddoli ynghylch ffotoganfodyddion Peroveskit a chrynhowyr ymoleuol i ddibenion cyfathrebu optegol. Mae ei diddordeb ymchwil yn cynnwys dyfeisiau optoelectroneg, cylchedau amledd uchel a sustemau cyfathrebu optegol.


Laura Michael

Laura yw fy enw i a chefais fy magu mewn tref fach yn Sir Gaerfyrddin.  Dros y pedair blynedd diwethaf rwyf wedi bod yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Warwig gan ennill MSc Ffiseg. Hyd yn oed wrth ddechrau’r cwrs, roeddwn i’n gwybod mai sylweddau cyddwysedig oedd fy mhrif ddiddordeb ac, felly, penderfynais astudio yn y maes hwnnw wedyn.

Enw prosiect fy ngradd meistr oedd Epitaxial growth and thin film characterisation of silicon based epiwafers, with specific attention given to Chemical Vapour Deposition (CVD) and Fourier Transformed Infra-red (FTIR) spectroscopy. Yn rhan ohono, helpais i ddyfeisio ffordd newydd o broffilio silicon mewn modd cyflym a chywir fel y gallwn ni nodweddu uwch-haen silicon noeth heb gyfyngiad is-haen wedi’i farneisio trwy gynnwys uwch-haen drwm ei farnais.

Y tu allan i ffiseg, rwy’n hoff o’r celfyddydau a chanŵa dŵr gwyllt.


Robert Müller

Helo, Robert yw fy enw i. Rwy’n dod o Marburg, tref fach yng nghanol yr Almaen.

Enillais i raddau baglor a meistr ym Mhrifysgol RWTH Aachen, gan arbenigo mewn deunyddiau electronig a thechnoleg nano.

Ar ôl treulio chwe mis yn Ne Corea, gorffennais brosiect fy ngradd meistr yn ddiweddar gan astudio twf a nodweddu ynyswyr topolegol magnetig a’u defnyddio mewn dyfeisiau sydd wedi’u cynhyrchu yn y fan a’r lle er cyfrifiadura cwantwm all dderbyn rhagor o wallau.

Ar wahân i’r byd academaidd, rwy’n mwynhau canu’r piano, dysgu ieithoedd newydd megis Corëeg a Ffrangeg ac, yn bwysicaf oll, bwyd (coginio a bwyta fel ei gilydd).


Aquila Powell

Enillais MEng Peirianneg Drydanol ac Electronig (dosbarth cyntaf) ym Mhrifysgol Leeds yn 2021.

Roedd prosiect fy ngradd yn ymwneud â rheostatau cof oedd wedi’u cynnig yn bedwaredd elfen sylfaenol cylched er ei bod yn well gyda fi eu galw yn rheostatau arbenigol. Bydd y rheostat hwnnw’n ffordd ardderchog o gadw data ar gyfer to newydd technoleg er nad yw’r diwydiant wedi cydio yn y syniad eto am nifer o resymau – yn bennaf, cost isel ac argaeledd technolegau cof silicon diweddar sy’n boblogaidd iawn.

Crefft ymladd yw fy mhrif ddiddordeb ac rwy’n hoff o baentio, arlunio a chelfyddydau’r llwyfan hefyd. Fy nod yw gwella fy ngwybodaeth a’m galluoedd peirianyddol lle bynnag y bo modd.


Balthazar Temu

Balthazar Gaspar Temu yw fy enw, ac rwy’n dod o Tansania.

Enillais gradd baglor peirianneg telathrebu yn 2010 yn HUST, Tsieina. Wedyn, bues i’n beiriannydd gweithrediadau rhwydwaith i gwmni MIC Tanzania Ltd (Tigo) rhwng mis Awst 2010 a mis Chwefror 2014 cyn weithio’n beiriannydd safle gyda Huawei Dubai rhwng mis Chwefror 2014 a mis Ebrill 2018. Rhwng mis Medi 2018 a mis Gorffennaf 2019, astudiais ar gyfer gradd meistr cylchedau, synwyryddion a rhwydweithiau integredig ffotonig yn Scuola Superiore Santa Anna, yr Eidal.

Rhwng mis Medi 2019 a mis Awst 2020, cwblheais radd meistr peirianneg drydanol ym Mhrifysgol Technoleg Eindhoven. Roedd y ddau gwrs yn rhan o raglen ysgoloriaeth o dan nawdd Undeb Ewrop (Ysgoloriaeth Erasmus Mundus).

Mae diddordeb gyda fi mewn nofio a chwarae pêl-droed.


Kate Wong

Helo! Kate ydw i. Cefais fy magu yn Sussex ac enillais radd ffiseg ac athroniaeth ym Mhrifysgol Bryste. Rwy’n hoffi teithio a rhedeg, ac rwy’n syrffio yn aml pan fydd y tywydd yn caniatáu hynny.


Ymunwch â ni! 

Ar hyn o bryd, mae nawdd gan Ganolfan yr Hyfforddiant Doethurol ar gyfer derbyn pum carfan rhwng 2019 a 2023. Os ydych chi am ddod aton ni, dyma sut mae ymgeisio ac mae croeso ichi gysylltu â ni ynghylch unrhyw gwestiynau.

Comments are closed.