Carfan 1

Bydd ein carfan gyntaf yn ymuno â ni ar 24 Medi 2019.

Tristan Burman

Helo, fy enw i yw Tristan ac rwy’n dod o dref Glynrhedynog yng Nghymoedd de Cymru. Diolch i fy nhad-cu, mae ffiseg wedi fy niddori ers i mi fod yn blentyn ifanc. Astudiais ffiseg, mathemateg a dylunio cynnyrch ar lefel Safon Uwch.

Ers hynny, rwyf wedi graddio o Brifysgol Caerdydd gyda gradd Meistr mewn ffiseg (MPhys), ac fe ganolbwyntiais ar raglennu a lled-ddargludyddion yn ystod y blynyddoedd olaf. Fy mhrosiect yn y flwyddyn olaf oedd creu rhaglen hawdd ei defnyddio i ddatrys Hafaliad Schrodinger ar gyfer heterostrwythurau lled-ddargludyddion. Roedd y rhaglen hon yn gallu efelychu heterostrwythurau o dan fias, dellt mawr ac yn pennu integrynnau gorgyffwrdd rhwng cyflyrau ynni.

Rhwng graddio a dechrau rhaglen y Ganolfan Hyfforddiant Doethurol, rwyf wedi ymgymryd â lleoliad dros yr haf gydag SPTS yn datblygu offer Python i gyflymu’r broses o ddadansoddi’r ffeiliau data sy’n cael eu cynhyrchu gan eu hoffer.

O ran diddordebau eraill, rwy’n mwynhau arbrofi ag electroneg, mynd i weld digrifwyr byw, treulio amser gyda ffrindiau, a phopeth sy’n ymwneud â thechnoleg.

Rachel Clark

Fy enw i yw Rachel ac rwy’n wreiddiol o Orllewin Canolbarth Lloegr. Rwyf wedi graddio o Brifysgol Manceinion yn ddiweddar gydag MPhys mewn Ffiseg. Rwyf bob amser wedi mwynhau ffiseg arbrofol, yn ogystal â sawl agwedd wahanol ar ffiseg mater cywasgedig, ond mae gen i ddiddordeb penodol mewn dyfeisiau a deunyddiau lled-ddargludyddion a ffyrdd o’u defnyddio.

Roedd fy mhrosiect meistr yn canolbwyntio ar ddatblygu techneg nodweddu newydd ar gyfer celloedd ffotofoltäig, a gafodd ei phrofi yn gyntaf a’i mireinio ar gelloedd ffotofoltäig Silicon safonol, yna’i gwthio ymlaen i gelloedd ymchwil, gan gynnwys perovskite (MAPI). Rwy’n gobeithio dysgu rhagor am ddulliau creu deunyddiau lled-ddargludyddion a dilyn prosiect PhD sy’n gysylltiedig â dylunio a nodweddu dyfeisiau lled-ddargludyddion.

Seyed Ghozati

Rwyf o dras Persiaidd yn wreiddiol. Dechreuais fy ngyrfa academaidd gyda gradd Cyswllt mewn Meysydd Trydanol. Yna, fe wnes i barhau â’m astudiaethau ac ennill gradd Baglor mewn Peirianneg Electronig ac yna gradd Meistr mewn Peirianneg Pŵer Trydanol ym Mhrifysgol Northumbria yn Newcastle, Lloegr.

‘’Hybrid Electric Vehicles with a Switched Reluctance Motor’’ yw un o’r prosiectau gorau i mi weithio arno hyd yma. Mae’r papur yn ymdrin â modur trydanol a’i allbynnau, mae rhwydwaith rhannu pŵer yn cael ei efelychu gydag SRM mewn MATLAB/Simulink i gael perfformiad gwell yn ôl nodweddion SR a system reoli unigryw. 

Cobi Maynard

Helo, Cobi ydw i. Rwy’n dod o Gaerfaddon yn wreiddiol. Astudiais ar y cwrs MPhys Ffiseg pedair blynedd ym Mhrifysgol Caerdydd.

Ar gyfer fy mhrosiect ymchwil yn y bedwaredd flwyddyn, fe wnes i ymchwilio i nanostrwythurau Galiwm Nitrid (GaN) wedi’u tyfu drwy gyfrwng Epitacsi Pelydr Moleciwlaidd (MBE) ar gyfer dyfeisiau optoelectronig. Cafodd y nanostrwythurau hyn eu dadansoddi gan ddefnyddio technegau arbrofol Microsgopeg Sganio Electronau (SEM) a Diffreithiant Adlewyrchiad Electronau Ynni Uchel.

Yn ystod fy nghyfnod fel myfyriwr israddedig, roeddwn yn aelod o Sgwadron Awyr Prifysgolion Cymru, ac roeddwn yn aelod o bwyllgor y gymdeithas Anrhefn yn yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth. Y tu allan i’r brifysgol, rwy’n hoff o fynd i’r gampfa.

Paradeisa O’Dowd-Phanis

Helo, Paradeisa ydw i. Cwblheais fy ngradd israddedig ym Mhrifysgol Caerdydd, lle roeddwn yn rhan o’r Gymdeithas Dawns Broadway a’r gymdeithas yoga.

Roedd fy mhrosiect trydydd blwyddyn yn cynnwys modelu mynegai plygiannol Lled-Ddargludyddion cyfansawdd gan ddefnyddio python, a rhoi’r modelau hyn ar waith wedi hynny yn natrysiad modd Lumerical er mwyn creu canllawiau tonnau ar gyfer Lled-ddargludyddion Cyfansawdd.

Yn fy amser hamdden, rwy’n hoffi dawnsio, arlunio ac ymarfer caligraffeg.

Bogdan Ratiu

Cefais fy magu mewn tref fach yn Romania yn y mynyddoedd, nepell oddi wrth gastell Dracula. Penderfynais ddod i’r DU i astudio ffiseg, a chwblheais radd mewn Ffiseg a Chyfrifiadureg yn Sheffield. 

Mae’r meysydd ymchwil sydd o ddiddordeb pennaf i mi yn cynnwys ffiseg mater cywasgedig, ffiseg gronynnau a dysgu peiriannol.

Roedd fy mhrosiect trydydd blwyddyn yn cynnwys defnyddio dysgu peiriannol i ddosbarthu digwyddiadau yn synhwyrydd ATLAS. Yr haf hwn, rwyf wedi helpu i ysgrifennu cod ar gyfer grŵp ATLAS yn Sheffield, sy’n ymwneud ag ailadeiladu electronau sydd wedi cael eu hadnabod yn anghywir. 

Ar wahân i hynny, rwy’n mwynhau chwarae gemau cyfrifiadurol, cerdded, pobi a chwarae gemau bwrdd.

Ymunwch â ni   

Rydym yn recriwtio ar gyfer mis Medi 2021. Os hoffech ymuno â ni, mae gwybodaeth bellach ar ein tudalen ‘sut i ymgeisio‘. Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau.

Comments are closed.