Sut i wneud cais

Bydd ein rhaglen PhD yn derbyn myfyrwyr ym mis Hydref, gyda hyd at 14 o leoedd ar gael yn 2021, a niferoedd tebyg yn 2022 a 2023.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion sydd â gradd da mewn ffiseg, electroneg neu beirianneg trydanol (cyntaf neu 2:1), neu sy’n disgwyl gradd da, ac sydd â diddordeb go iawn mewn lled-ddargludyddion cyfansawdd ac sy’n dangos brwdfrydedd ynglŷn â’r dull o weithio mewn grŵp. Mae’n bosibl y caiff ymgeiswyr sydd â gradd yn adran isaf yr ail ddosbarth (2:2) eu hystyried os ydynt wedi cael canlyniad da ar lefel gradd Meistr neu os oes ganddynt brofiad gwaith perthnasol a sylweddol.

Fel arfer, disgwylir i ymgeiswyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf allu bodloni gofynion safonol Prifysgol Caerdydd, sef IELTS (Academaidd) o 6.5 ar hyn o bryd, gyda 5.5 ym mhob is-sgôr. 

Bydd ceisiadau ar gyfer 2021 yn cael eu hystyried mewn dau gam, gyda’r dyddiadau cau fel a ganlyn:

• 10 Ionawr 2021 gyda chyfweliad ar ddechrau mis Chwefror
• 6 Ebrill 2021 gyda chyfweliad ddiwedd mis Ebrill

Os oes lleoedd ar gael ar ôl rownd mis Ebrill, bydd rownd derfynol ddiwedd mis Mehefin.

Argymhellwn eich bod yn ymgeisio cyn gynted ag sy’n bosibl i gael ystyriaeth lawn.

Cyfweliadau

Mae cyfweliadau yn ofynnol, ond gallant gael eu cynnal wyneb yn wyneb neu dros Skype, yn dibynnu ar eich lleoliad.   Byddwn yn talu costau rhesymol sy’n deillio o’ch presenoldeb mewn cyfweliad. Rhoddir manylion pellach yn eich gwahoddiad.  

Geirdaon

Gofynnir i chi ddarparu enwau a manylion cyswllt dau ganolwr. Dylai un o’r rhain fod yn ganolwr academaidd. Fel arfer, byddwn yn gofyn am eirdaon cyn y cyfweliad. Mae angen o leiaf un geirda cadarnhaol er mwyn i ni allu gwneud cynnig.    

Pwy sy’n gymwys

Mae ein hysgoloriaethau ar gael i ymgeiswyr Cartref a Rhyngwladol (sydd nawr yn cynnwys UE/AEE). Fodd bynnag, mae cyfyngiad ar nifer yr ysgoloriaethau y gellir eu dyfarnu.

Mae’r ysgoloriaeth ymchwil yn talu ffioedd dysgu cartref UKRI, felly gallai myfyrwyr rhyngwladol orfod talu am y gwahaniaeth rhwng y ffi hon a ffioedd dysgu rhyngwladol y Brifysgol. Darllenwch y wybodaeth am ffioedd Caerdydd, Manceinion, Sheffield a Choleg Prifygsol Llundain i gael rhagor o fanylion.

Byddwn yn diweddaru ymgeiswyr pan fydd rhagor o wybodaeth ar gael. Yn y cyfamser, mae gwybodaeth am gymhwyster ar gael ar wefan UKRI.

Mae manylion llawn y rhaglen a’r ffurflen ymgeisio ar-lein ar gael ar wefan Prifysgol Caerdydd.

Cysylltwch ar bob cyfrif os oes gennych unrhyw gwestiynau: semiconductors-cdt@caerdydd.ac.uk

Comments are closed.