Cyfleusterau ymchwil

Bydd gennych chi fynediad at arbenigedd ac offer ar draws y prifysgolion partner – mae pob un yn cynnwys labordai modern o’r radd flaenaf gyda chefnogaeth gynhwysfawr gan dechnegwyr ac yn y gweithdy. 

Mae cyfleusterau rhagorol ar gael er mwyn cyflawni prosiectau ymchwil sy’n seiliedig ar dwf epitacsiol, creu, nodweddu, dylunio cylchedau integredig a chydrannau ac is-systemau a systemau ar gyfer datblygu rhaglenni ar draws y maes Lled-ddargludyddion Cyfansawdd. 

Manceinion

Mae cyfleusterau Prifysgol Caerdydd yn cynnwys dwy system epitacsi pelydr moleciwlaidd (MBE), gan gynnwys MBE 200mm (8″) unffurfiaeth uchel, a bydd yn canolbwyntio ar dwf GaAs, er enghraifft synwyryddion magnetig 2DEG gyda deunyddiau a chyfleusterau nodweddu dyfeisiau sy’n cynnwys DCXRD, PL, CV ac RF ar waffer i 110GHz. 

Coleg Prifysgol Llundain

Mae gan Goleg Prifysgol Llundain gyfleuster twf Lled-ddargludyddion Cyfansawdd ac Si cyfun, sy’n unigryw ac sy’n cynnwys system MBE ddeuol, lle mae siambr twf III-V wedi’i gysylltu â siambr grŵp IV er mwyn rhoi cap ar ddeunyddiau gwaelodol gan ddefnyddio arwyneb epi Si llyfn cyn epitacsi III-V. Nodweddu, gan gynnwys dadansoddi cydrannau tonnau golau i 67GHz, profi cyfraddau gwall didau i 100GBit/s a nodweddu cludiant trydanol.

Sheffield

Mae gan Brifysgol Sheffield ddwy system GaN MOVPE (gan gynnwys system tymheredd uchel newydd sbon), sy’n ychwanegol at allu presennol Cyfleuster Epitacsi Cenedlaethol EPSRC a chyfleusterau nodweddu dyfeisiau a deunyddiau helaeth. 

Caerdydd

Mae gan Brifysgol Caerdydd offer dylunio cylchedau RF ac Optegol o safon ddiwydiannol, systemau MBE a MOVPE ar gyfer Nitrid, Arsenid a deunyddiau sy’n seiliedig ar Sb, cyfleusterau creu yn y Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, deunyddiau nodweddu dyfeisiau optoelectronig (400–4000nm) ac RF (ar waffer 200mm llawn ac ar ddyfeisiau unigol) i 120 GHz. 

Partneriaid

Mae gan ein partneriaid, er enghraifft IQE, Newport Wafer Fab a Huawei, hefyd gyfleusterau arbenigol blaenllaw mewn twf epitacsiol a nodweddu deunyddiau, yn ogystal â chreu dyfeisiau a phecynnu Lled-ddargludyddion Cyfansawdd.

Comments are closed.