Blwyddyn 2 hyd flwyddyn 4

Ar ôl gorffen y flwyddyn gyntaf yn llwyddiannus, fe’ch cofrestrir ym mhrifysgol eich goruchwyliwr arweiniol – eich ‘Prifysgol Gartref’.  Felly, gallech chi fod ym Mhrifysgol Caerdydd, Prifysgol Manceinion, Prifysgol Sheffield neu Goleg Prifysgol Llundain.

Yn ôl pob tebyg, byddwch chi’n treulio cyfnod gyda phartner diwydiannol yn rhan o’ch prosiect yn ogystal â chymryd rhan yng ngweithgareddau hyfforddi’ch carfan. Dros y cyfnod, cedwir golwg ar eich cynnydd trwy weithdrefnau eich Prifysgol Gartref, a byrddau addysg a rheoli CDT fydd yn monitro ansawdd eich profiad yn fyfyriwr.

Gweithgareddau

Yn ogystal a defnyddio cynadledda fideo a phlatfform cyfathrebu penodol i ddal cysylltiadau, bydd cyfle ichi gysylltu wyneb yn wyneb â grŵp eich blwyddyn a holl garfan CDT trwy gyfrwng cyfarfodydd ym mhob prifysgol yn ei thro. 

Bydd gweithgareddau eraill megis:

  • Cynhadledd flynyddol a arweinir gan y myfyrwyr (dangos a dweud).
  • Cynhadledd flynyddol am arloesi ar y cyd gan gynnwys achlysur i’w hwyluso gan eich carfan.
  • Hyfforddiant ymgysylltu cyhoeddus gan gwmni o fri Science Made Simple i’ch helpu i lunio deunyddiau a gweithgareddau arddangosfeydd i sawl cynulleidfa megis llunwyr polisïau, hoelion wyth diwydiannau a disgyblion.
  • Hyfforddiant am ymchwil ac arloesi moesegol.
  • Cyfle i’r holl garfan fynd i naill ai Gynhadledd Lled-ddargludyddion y DG neu Gynhadledd y Lled-ddargludyddion a’r Opto-electroneg Integredig.
  • Ffair Gyrfaoedd 2020.
  • Hyfforddiant gorfodol ynghylch medrau uwch, yn un o’r pedair prifysgol.

Bydd CDT yn rhoi arian treuliau teithio a llety ar gyfer yr achlysuron hynny.

Comments are closed.